🎄 Syniadau Anrhegion Nadolig i Anturiaethwyr – Dathlu Antur yng Nghymru!
Os oes gennych anturiaethwr ar eich rhestr Nadolig eleni – rhywun sydd fwyaf hapus pan maen nhw y tu allan yn yr awyr iach, yn crwydro i fyny bryn, neu’ allan ben bore i weld yr haul yn codi - yna mae hwn ar eich cyfer chi. Rydym wedi dethol ychydig o frandiau Cymreig gwych sy’n dal ysbryd ymru ac yr awyr agored yn berffaith. O waith celf unigryw i sannau moethus a choffi wedi’i rostio’n lleol, mae’r anrhegion hyn yn sicr o wneud bore Nadolig unrhyw anturiaethwr yn un arbennig.
☕ Blend Nadolig – Hard Lines Coffee
I lawer o anturiaethwr, nid yw unrhyw antur yn gyflawn heb gwpan da o goffi – yn enwedig ar fore gaeaf oer! Mae Blend Nadolig gan Hard Lines Coffee yn dal ysbryd y tymor gyda’i flasau llyfn, nadoligaidd o siocled, oren, a caramel. Wedi’i rostio gyda gofal yng Nghymru, mae’n anrheg berffaith i gerddwyr, gwersyllwyr, neu unrhyw un sy’n hoffi dechrau eu diwrnod gyda choffi Cymreig o ansawdd.
👉 Y cymysgedd perffaith, wedi’i rostio yng Nghaerdydd.
www.hard-lines.co.uk
🧦 Sannau moethus – Corgi
Wedi’u gwneud â llaw yng Nghymru gan Corgi, busnes teuluol gyda dros 100 mlynedd o hanes, mae’r sannau Fair Isle hyn yn dod â cyfforddusrwydd a steil. Wedi’u gwneud o gymysgedd o wlân merino a chotwm, maent yn feddal, ac yn berffaith ar gyfer eu gwisgo gyda esgidiau cerdded neu eistedd wrth y tân. Mae dyluniad traddodiadol Fair Isle yn ychwanegu teimlad nadoligaidd.
👉 Sannau Cymreig gyda hanes, ansawdd a moethusrwydd.
www.corgisocks.com
🔥 Tocyn Anrheg – Sawna Bach® – The Scenic Sauna
I’r rhai sy’n caru anturiaethau awyr agored ond hefyd yn gwerthfawrogi ychydig o ymlacio, mae ymweliad â Sawna Bach® yn anrheg berffaith. Fel y sawnas awyr agored cyntaf â thân coed, maen nhw’n cynnig profiad unigryw mewn lleoliadau godidog ar Ynys Môn ac yn Llanberis. Ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd ar ôl crwydro hir neu antur gaeafol – mae’n driniaeth lles fel dim arall.
👉 Anrheg gofiadwy i unrhyw un sy’n caru natur a ymlacio.
www.sawnabach.com
🌅 Crys-T Yr Wyddfa – Pen Wiwar
Boed chi’n dringo Yr Wyddfa neu’n eistedd i gael cwpan o goffi ar ôl cerdded, mae’r Crys-T hwn gan Pen Wiwar yn ddewis perffaith. Mae’r dyluniad Yr Wyddfa ar gael mewn gwyn clasurol a glas, y ddau yn feddal, steilish, ac wedi eu ysbrydoli gan ysbryd Eryri. Wedi’i greu’n foesegol ac wedi’i sgrin-argraffu yng Nghymru, mae’n cyfuno cysur gyda steil. Perffaith i unrhyw un sydd eisiau cario darn bach o Yr Wyddfa gyda nhw, ar y mynydd neu oddi arno.
👉 Wedi’i wneud ar gyfer anturiaethwyr, beth bynnag fo’r tywydd.
www.penwiwar.cymru
📅 Calendr Ffotograffiaeth 2026 – Huw Jones
I’r rhai sy’n caru tirluniau Cymreig godidog a ffotograffiaeth awyr agored ysbrydoledig, mae Calendr 2026 Huw Jones yn anrheg berffaith. Mae pob mis yn dangos delweddau syfrdanol o fynyddoedd, arfordir, a chefn gwlad Cymru, gan ddod â chyffyrddiad o antur a harddwch naturiol i unrhyw gartref neu swyddfa.
👉 Anrheg ystyriol i unrhyw un sy’n gwerthfawrogi’r awyr agored, celf neu dirwedd Cymreig.
Huw Jones Photography
🥾 Mwg Gwersylla wedi’i Bersonoli – Adra
Perffaith ar gyfer siocled poeth wrth y tân, mae’r mwg gwersylla enamal wedi’i bersonoli gan Adra, ac yn barod ar gyfer unrhyw antur. Ychwanegwch enw neu neges i’w wneud yn unigryw — neu creu’r anrheg berffaith i ffrind sy’n caru’r awyr agored. Wedi’i ddylunio ac argraffu yng Nghymru, mae’n ffordd syml a steilus i ddod â chyffyrddiad o gartref i bob gwersyllfa.
👉 Wedi’i wneud ar gyfer crwydrwyr, gwersyllwyr penwythnos a chariadwyr yr awyr agored.
www.adrahome.com
🎒 Bwndel Antur Casgliad x Pen
Yr anrheg berffaith i unrhyw un sy’n caru crwydro Cymru! Mae’r bwndel cyfyngedig hwn yn cyfuno corcfwrdd Casgliad gyda Crys-T gan Pen Wiwar – wedi’i wneud gyda gofal yng Nghymru. Boed chi’n casglu copaon, yn cynllunio’ch antur nesaf, neu’n syml yn caru dyluniad Cymreig hardd, mae’r cydweithrediad hwn yn dathlu antur, crefftwaith, a’r awyr agored.
👉 Anrheg unigryw, ystyriol i anturwyr.
www.casgliadcollection.com/adventurebundle
⛰️ Pinbord Marilyns – Casgliad
I unrhywun sydd yn caru mynyddoedd a’r rhai sy’n hoffi ticio rhestrau, mae’r Pinbord Marilyns gan Casgliad yn ffordd berffaith o gofnodi anturiaethau ar draws Cymru. Gyda’r holl gopaon Marilyn wedi’u nodi’n glir, mae’r pinfwrdd hardd hwn yn ymarferol ac yn ddarn unigryw o gelf. Wedi’i wneud â llaw yng Nghymru, mae’n galluogi cerddwyr i farcio pob copa gyda phin wrth iddynt symud ymlaen drwy’r her.
P’un a ydych yn cynllunio llwybrau newydd, yn cofio taith gerdded arbennig, neu’n chwilio am anrheg berffaith i anturiaethwr, mae’r Corcfwrdd Marilyns yn dod ag ysbrydoliaeth i bob cartref.
👉 Anrheg Gymreig unigryw sy’n dathlu copaon Cymru.
Pinfwrdd Marilyns Cymru | The Welsh Marilyns Pinboard Print — Casgliad - Contemporary Welsh Design